Greg Woods a Jason Strange

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Greg Woods a Jason Strange

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Am resymau teuluol, dw i ddim wedi postio yma am dros dair blynedd. Ond rwy'n dal i ddilyn Glynebwy ar Drydar! Ar ôl dechreuad da i'r tymor, fe'm siomwyd gan y gyfres canlyniadau gwael ddiweddar. Serch hynny, do'n i ddim yn disgwyl y byddai Greg Woods a'i dîm hyfforddi yn gadael mor ddisymwth. Dw i ddim yn gwybod beth aeth o'i le, a phob llwyddiant i Greg yn y dyfodol. Ond heddiw fe ges i fy siomi ar yr ochr orau wrth glywed y bydd Jason Strange yn dychwelyd i'r clwb fel y prif hyfforddwr. Newyddion calonogol iawn yn ystod cyfnod eitha tywyll.
Post Reply