Buddugoliaeth nodedig arall!

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Buddugoliaeth nodedig arall!

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Llongyfarchion i Glwb Rygbi Glynebwy ar guro Cwins Caerfyrddin ym Mharc EC yn nhrydedd rownd Cwpan SWALEC heddiw, a hynny heb chwarae'n rheolaidd ers cyn y Nadolig! :D
RS
Posts: 328
Joined: 01 Mar 2005 18:16
Location: By one of the ponds Corus wanted to drain.
Contact:

Re: Buddugoliaeth nodedig arall!

Post by RS »

Seisyll ap Dyfnwal wrote:Llongyfarchion i Glwb Rygbi Glynebwy ar guro Cwins Caerfyrddin ym Mharc EC yn nhrydedd rownd Cwpan SWALEC heddiw, a hynny heb chwarae'n rheolaidd ers cyn y Nadolig! :D
Ddest ti lan i'r gêm ddoe, Seisyll? Perfformiad arbennig o dda, fasai dyn ddim yn dyfalu pa dîm oedd yn y Cynghrair a p'un yn yr adran cyntaf. Perfformiad gwell na'r un yn erbyn Casnewydd, yn fy marn i.
Don't forget, you read it here first. (Unless it's rubbish, then please assume you read it elsewhere.)
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Buddugoliaeth nodedig arall!

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

RS wrote:
Seisyll ap Dyfnwal wrote:Llongyfarchion i Glwb Rygbi Glynebwy ar guro Cwins Caerfyrddin ym Mharc EC yn nhrydedd rownd Cwpan SWALEC heddiw, a hynny heb chwarae'n rheolaidd ers cyn y Nadolig! :D
Ddest ti lan i'r gêm ddoe, Seisyll? Perfformiad arbennig o dda, fasai dyn ddim yn dyfalu pa dîm oedd yn y Cynghrair a p'un yn yr adran cyntaf. Perfformiad gwell na'r un yn erbyn Casnewydd, yn fy marn i.
Yr oeddwn i wedi ystyried mynd i i weld y gêm, ond roedd y tywydd mor wael yn y bore, ro'n i'n amau a fyddai'n digwydd o gwbl. Yn ail, mae Glynebwy yn chwarae'n well o lawer pan nad ydw i'n gwylio! :wink:
Milo
Posts: 428
Joined: 02 Mar 2005 23:15
Location: on the bank (at ebbw or a lake!!)
Contact:

Re: Buddugoliaeth nodedig arall!

Post by Milo »

Roedd hi'n gêm wych, wnaethoch chi sylwi fy golygyddol yn y rhaglen hefyd yn Gymraeg? Gobeithio nad oedd unrhyw gamgymeriadau!
A bad days fishing is better than a great day in work!

http://iainswansonangling.weebly.com/
RS
Posts: 328
Joined: 01 Mar 2005 18:16
Location: By one of the ponds Corus wanted to drain.
Contact:

Re: Buddugoliaeth nodedig arall!

Post by RS »

Milo wrote:Roedd hi'n gêm wych, wnaethoch chi sylwi fy golygyddol yn y rhaglen hefyd yn Gymraeg? Gobeithio nad oedd unrhyw gamgymeriadau!
Do Milo! Gwnes i sylwi ar y fersiwn Cymraeg ac yn meddwl, "Da iawn, ti!" Roedd ambell i gamgymeriad, ond dim ots - mae'n well 'da fi gweld tipyn bach o Gymraeg gyda chamgymeriadau na dim Cymraeg o gwbl! (A dwi'n gwybod fy mod i'n gwneud llawer o gamgymeriadau!)

(O ddiddordeb: cyfiethiad gan berson neu gan beiriant?)
Don't forget, you read it here first. (Unless it's rubbish, then please assume you read it elsewhere.)
Milo
Posts: 428
Joined: 02 Mar 2005 23:15
Location: on the bank (at ebbw or a lake!!)
Contact:

Re: Buddugoliaeth nodedig arall!

Post by Milo »

Diolch Rob, roedd yn hanner a hanner.

Dw i'n ceisio dysgu ei wneud pan fyddaf yn cael rhywfaint o amser sbâr.

Rwy'n gallu deall llawer ohono ac yn gwybod ystyr geiriau, fy broblem yn rhoi rhai geiriau i mewn i siarad paragraff ac ar bapur.

cymerodd gryn amser ac ar gyfer hyn o bryd rwy'n defnyddio cyfieithydd!
A bad days fishing is better than a great day in work!

http://iainswansonangling.weebly.com/
RS
Posts: 328
Joined: 01 Mar 2005 18:16
Location: By one of the ponds Corus wanted to drain.
Contact:

Re: Buddugoliaeth nodedig arall!

Post by RS »

Milo wrote:Diolch Rob, roedd yn hanner a hanner.

Dw i'n ceisio dysgu ei wneud pan fyddaf yn cael rhywfaint o amser sbâr.

Rwy'n gallu deall llawer ohono ac yn gwybod ystyr geiriau, fy broblem yn rhoi rhai geiriau i mewn i siarad paragraff ac ar bapur.

cymerodd gryn amser ac ar gyfer hyn o bryd rwy'n defnyddio cyfieithydd!
Dwi'n hapus i helpu! Ti'n gwybod sut i gysylltu â fi...
Don't forget, you read it here first. (Unless it's rubbish, then please assume you read it elsewhere.)
Post Reply