Llongyfarchion!

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Llongyfarchion!

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Llongyfarchion i'r bois am fynd mor bell yng Nghwpan SWALEC eleni. Maen nhw'n chwarae ar safon uchel iawn ar hyn o bryd, a doedd heddiw ddim yn eithriad. Ond hoffwn i gael gwybod a oes modd hawlio ein bod ni heb golli heddiw oherwydd y sgôr gyfartal ar ddiwedd y gêm? Wedi'r cyfan XKeys sydd yn y rownd derfynol, nid Glynebwy. Plis, all rhywun fy helpu i gyda'r pos hwn?
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Re: Llongyfarchion!

Post by ebbwboy »

Seisyll ap Dyfnwal wrote:Llongyfarchion i'r bois am fynd mor bell yng Nghwpan SWALEC eleni. Maen nhw'n chwarae ar safon uchel iawn ar hyn o bryd, a doedd heddiw ddim yn eithriad. Ond hoffwn i gael gwybod a oes modd hawlio ein bod ni heb golli heddiw oherwydd y sgôr gyfartal ar ddiwedd y gêm? Wedi'r cyfan XKeys sydd yn y rownd derfynol, nid Glynebwy. Plis, all rhywun fy helpu i gyda'r pos hwn?
Cwestiwn diddorol, Seisyll. Chi'n iawn, wrth gwrs, taw Cross Keys sy'n mynd trwodd i'r rownd derfynol. Ond, yn fy marn i, enillon nhw'r gem ar bwynt technegol, sef rheolau'r cystadleuaeth, yn hytrach na gan sgorio mwy o bwyntiau na ni ar y maes chwarae.
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Llongyfarchion!

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Cwestiwn cwis tafarn at y dyfodol: "Pa dîm aeth allan yn rownd gynderfynol Cwpan SWALEC heb golli'r un gêm?" Oni bai fod rhyw dîm arall wedi gwneud yr un peth heb yn wybod i mi. :wink: Gan eu bod nhw'n cael eu chwarae ar feysydd niwtral, hwyrach y dylid ystyried newid y rheolau ar gyfer y rowndiau gynderfynol i sicrhau fod un tîm yn sgorio mwy o bwyntau na'r llall!

Ro'n i'n drist iawn i glywed y canlyniad yn erbyn Trecelyn ddoe. (Ond llongyfarchion i Drecelyn yr un peth, wrth gwrs.) O leiaf, rwy'n gallu dilyn y bois ar Drydar nawr. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r clwb am y gwasanaeth hwnnw.
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Re: Llongyfarchion!

Post by ebbwboy »

Seisyll ap Dyfnwal wrote: O leiaf, rwy'n gallu dilyn y bois ar Drydar nawr. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r clwb am y gwasanaeth hwnnw.
Ie, cytuno'n hollol. O ie, fi sy'n trydar y newyddion yn fyw! :D
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Post Reply