Llongyfarchion unwaith eto a beth am y flwyddyn nesaf?

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Llongyfarchion unwaith eto a beth am y flwyddyn nesaf?

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Na i gyd dw i'n ei wneud y dyddiau ’ma yw llongyfarch y bois eleni! Rwy'n ddiolchgar iawn i Ebbwboy am y gwaith gwych ar Drydar. Dw i nawr ar frigau'r drain i gael gwybod manylion y tymor nesaf. Rwy'n deall y bydd Glynebwy'n chwarae yn y bencampwriaeth newydd. Ydyn ni'n gwybod pwy arall fydd yn yr adran honno a faint o dimau fydd ynddi hi?
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Re: Llongyfarchion unwaith eto a beth am y flwyddyn nesaf?

Post by ebbwboy »

Seisyll ap Dyfnwal wrote:Na i gyd dw i'n ei wneud y dyddiau ’ma yw llongyfarch y bois eleni! Rwy'n ddiolchgar iawn i Ebbwboy am y gwaith gwych ar Drydar. Dw i nawr ar frigau'r drain i gael gwybod manylion y tymor nesaf. Rwy'n deall y bydd Glynebwy'n chwarae yn y bencampwriaeth newydd. Ydyn ni'n gwybod pwy arall fydd yn yr adran honno a faint o dimau fydd ynddi hi?
Yr ateb byr? Nac ydyn, dydyn ni ddim yn gwybod manylion y pencampwriaeth eto.
Yr ateb hir? Wel, mae'r cynllun ynglyn a'r uwch adran wedi newid tro ar ol tro, ac mae hynny wedi effiethio ar gynlluniau ar gyfer gweddill y cynghrair. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae Pontypwl yn apelio at yr Uchel Lys yn erbyn penderfyniad yr URC i'w diraddio nhw, a fydd yr achos ddim yn cael ei glywed tan ddiwedd mis Mehefin. Petai Pontypwl yn llwyddianus, fasen nhw ddim yn ymuno a'r pencampwriaeth, a basai 13 o dîmau yn yr uwch adran. Fasai'r URC yn fodlon i gael odrif o dîmau? Fasen nhw'n codi Glynebwy er mwyn cael eilrif o dîmau? Pwy a wyr? Amser a ddengys (fel arfer!)

O safbwynt dyfodol ein clwb ni, dwi wedi clywed - yn answyddogol ond o lygad y ffynon - bod rhan fwyaf y carfan wedi llofnodi am y tymor nesaf, a bod llawer o chwaraewyr clybiau erraill wedi cysylltu a'r hyfforddwyr er mwyn cynnig eu gwasanaethau, yn cynnwys chwaraewyr o'r uwch adran. Fel maen nwh'n dweud: mae'r dyfodol yn llachar, mae'r dyfodol yn goch, gwyrdd a gwyn!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Post Reply