Hen dro, Bont-y-pwl!

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Hen dro, Bont-y-pwl!

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Newydd glywed fod Clwb Rygbi Pont-y-pwl wedi colli eu hachos llys yn erbyn Undeb Rygbi Cymru. Yn ei ddyfarniad, mae'n debyg i'r barnwr, Raymond Jack, ddweud fod Pont-y-pwl yn anlwcus oherwydd eu bod nhw'n 13eg yn nhabl 'meritocracy' yr Undeb, a bod Cwins Caerfyrddin a Phen-y-bont yn 11eg a 12fed. Rwy'n cofio darllen rywle fod Glynebwy yn 8fed yn yr un tabl. All rhywun gadarnhau hynny? Os gwir, pam nad ydym ni yn yr uwchadran newydd? (Nid fy mod i'n cytuno â'r cysyniad o'i chorlannu, wrth reswm.)
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Re: Hen dro, Bont-y-pwl!

Post by ebbwboy »

Seisyll ap Dyfnwal wrote:Newydd glywed fod Clwb Rygbi Pont-y-pwl wedi colli eu hachos llys yn erbyn Undeb Rygbi Cymru. Yn ei ddyfarniad, mae'n debyg i'r barnwr, Raymond Jack, ddweud fod Pont-y-pwl yn anlwcus oherwydd eu bod nhw'n 13eg yn nhabl 'meritocracy' yr Undeb, a bod Cwins Caerfyrddin a Phen-y-bont yn 11eg a 12fed. Rwy'n cofio darllen rywle fod Glynebwy yn 8fed yn yr un tabl. All rhywun gadarnhau hynny? Os gwir, pam nad ydym ni yn yr uwchadran newydd? (Nid fy mod i'n cytuno â'r cysyniad o'i chorlannu, wrth reswm.)
Mae dy gôf yn berffaith Seisyll, 8fed ydy Glynebwy yn y cynghrair 'meritocracy' ond, yn ôl rheolau'r URC, roedd rhaid i dîmau a oedd eisiau cyfranogi yn yr Uwch Gynghrair newydd, bod yn rhan o'r hen Uwch Gynghrair... yn anffodus, yn yr Adran Cyntaf oedden ni. Tasen ni wedi mynd lan y llynedd, trwy guro Crwydraid Morgannwg a Phenybont, basen ni yn yr Uwch Gynghrair newydd ym mis Medi. Heb os ac oni bai... ond, efallai basai'r URC wedi penderfynnu cael 7 tîm, wrth gwrs!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Hen dro, Bont-y-pwl!

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

... roedd rhaid i dîmau a oedd eisiau cyfranogi yn yr Uwch Gynghrair newydd, bod yn rhan o'r hen Uwch Gynghrair ...
Diolch o galon am yr esboniad, Ebbwboy. Fodd bynnag, Yn dy bost, rwyt ti'n defnyddio'r ymadrodd "eisiau cyfranogi" ("eisiau bod yn rhan o"?). Ydy hyn yn golygu fod Glynebwy wedi penderfynu peidio â gwneud cais i fod yn rhan o'r uwch-adran newydd? A thybed a oes a wnelo hyn â bod yn berchen ar drwydded "A"? Drwg gen i am fod mor chwilfrydig.
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Re: Hen dro, Bont-y-pwl!

Post by ebbwboy »

Seisyll ap Dyfnwal wrote:
... roedd rhaid i dîmau a oedd eisiau cyfranogi yn yr Uwch Gynghrair newydd, bod yn rhan o'r hen Uwch Gynghrair ...
Diolch o galon am yr esboniad, Ebbwboy. Fodd bynnag, Yn dy bost, rwyt ti'n defnyddio'r ymadrodd "eisiau cyfranogi" ("eisiau bod yn rhan o"?). Ydy hyn yn golygu fod Glynebwy wedi penderfynu peidio â gwneud cais i fod yn rhan o'r uwch-adran newydd? A thybed a oes a wnelo hyn â bod yn berchen ar drwydded "A"? Drwg gen i am fod mor chwilfrydig.
Dim problem. Efallai bod fy Nghymraeg i ddim yn ddigon clir. Y pwynt ydy hwn: heb fod yn rhan o'r hen Uwch Gynghrair roedd yn amhosibl i unrhyw dȋm fod yn rhan o'r un newydd. A doedd dim dewis yn y peth: o'n ni wedi cael ein diraddio i'r Adran Gyntaf, ac felly doedden ni ddim yn gallu bod yn rhan o'r Uwch Gynghrair newydd.

Dwi'n ymddiheuro os awgrymais, efallai, bod elfen o ddewis yn y mater, a gobeithio o galon bod popeth yn gwneud synnwyr nawr!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Hen dro, Bont-y-pwl!

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Y pwynt ydy hwn: heb fod yn rhan o'r hen Uwch Gynghrair roedd yn amhosibl i unrhyw dȋm fod yn rhan o'r un newydd.
Diolch am yr eglurhad unwaith eto. Yr unig gwestiwn (rhethregol) sydd ar ôl gen i yw: Pam defnyddio'r cysyniad o feritocratiaeth o gwbl os nad yw'n gymwys i bawb? Yn fy marn i, mae Clwb Rygbi Glynebwy yn llawn haeddu ei le yn yr Uwch-adran, ond o dan y rheolau newydd, fydd dim gobaith caneri ganddo o gyrraedd yr adran honno am o leiaf bedair blynedd, a gall llawer iawn o bethau ddigwydd mewn pedair blynedd.
Nick
Posts: 64
Joined: 24 Feb 2005 17:45

Re: Hen dro, Bont-y-pwl!

Post by Nick »

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi sicrhau dipyn o gamp yma a dylai fod yn ganmol am ddangos mor agored eu sosialaidd. Wedi'r cyfan fyddai lle arall yn y byd mae gennych Uwch Gynghrair feritocrataidd mae rhai o'i aelodau yn sgorio llai na thimau mewn is-adrannau is? Yn enwedig gan mai un o'r timau hynny (Glyn Ebwy) wedi dangos ei bod yn fwy nag abl i chwarae yn y hedfan uchaf gan ddwywaith frig eu rhanbarth!
Gogledd Corea efallai?
Post Reply