Dangos ein bod ni'n Gymry Cymraeg

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Dangos ein bod ni'n Gymry Cymraeg

Post by ebbwboy »

Gyda’r newyddion siomedig sy’n dod mâs o’r cyfrifiad, mae’n bwysig dros ben i ni, y rhai ohonon ni sy’n gallu siarad ac ysgrifennu’r hen iaith, ddangos ein bod ni’n ddigon hyderus ei defnyddio ym mywyd bob dydd.

Beth am y tymor, hyd yn hyn? Ydyn ni’n hapus gyda pherformiadau a chanlyniadau ein tȋm?
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Dangos ein bod ni'n Gymry Cymraeg

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Clywch, clywch!

Mae yna nifer o ffactorau demographig am y sefyllfa bresennol a'r un pennaf yw fod poblogaeth cymunedau mor fach yn y gorllewin a'r gogledd, fod symudiad un teulu'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ganran y siaradwyr. Serch hynny, da gweld canrannau'n cynyddu yn yr ardaloedd 'Seisnigedig' fel Blaenau Gwent. (Rhaid cofio, yng Nghyfrifiad 1901, fod dros hanner poblogaeth Glynebwy'n siarad yr iaith.) Ar y cyfan, pobl ifainc sy'n gyfrifol am y cynnydd hwn. Mae yna duedd gan y garfan hon i golli'r iaith ar ôl gadael yr ysgol; ryw ffordd, rywsut, mae angen sicrhau na fydd hyn yn digwydd yn y dyfodol - drosodd i chi Mr Andrews!
Post Reply