Sillafiad Glynebwy

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Sillafiad Glynebwy

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Rhaid imi gyfaddef fy mod i'n hoff iawn o fformat 'syml' newydd gwefan y clwb. A hefyd da gweld fod enw Glynebwy wedi cael ei sillafu'n gywir yno. Mae'r BBC yn mynnu sillafu'r enw fel dau air o hyd, a dw i wedi gweld yr un peth ar arwyddion ffordd yn yr ardal. Er gwybodaeth, enw'r dre yw Glynebwy ac enwau'r nodweddion daearyddol yw Glyn Ebwy Fawr a Glyn Ebwy Fach.
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Re: Sillafiad Glynebwy

Post by ebbwboy »

A dweud y gwir, Seisyll, enw go iawn y dre, yn y Wenhwyseg, oedd "Bencae" (dwi'n sicr dy fod ti'n gwybod hyn!)
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Sillafiad Glynebwy

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Da iawn, ebbwboy. Ond cyn, ac ar ddechrau, y Chwyldro Diwydiannol, doedd dim shwd le â thre Glynebwy - dim ond casgliad o bentrefi bach fel Pont-y-gof a Phen-cae. Os am ddarllen am hanes yr ardal yn Gymraeg, rwy'n cymeradwyo 'Llên Gwerin Blaenau Gwent' gan Frank Olding.
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Re: Sillafiad Glynebwy

Post by ebbwboy »

Seisyll ap Dyfnwal wrote:Da iawn, ebbwboy. Ond cyn, ac ar ddechrau, y Chwyldro Diwydiannol, doedd dim shwd le â thre Glynebwy - dim ond casgliad o bentrefi bach fel Pont-y-gof a Phen-cae.
Dwi'n gwybod! Ond enw gwreiddiol "y dre" oedd Pen-y-cae, neu "Bencae" yn nhafodiaith yr ardal.

Ydych chi'n cofio Mrs Roberts, oedd yn athrawes Saesneg yn yr hen Ysgol Ramadeg Glynebwy? Dywedodd hi wrtho i, blynyddoedd yn ol, taw enw gafodd ei ddyfeisio ar gyfer Eisteddfod 1958 oedd 'Glynebwy'!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Sillafiad Glynebwy

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Rwy'n cofio Mrs Roberts, ond ches i erioed fy nysgu ganddi hi. Mae'n bosib iawn ei bod hi'n trïo bod yn ddrygionus wrth ddweud hynny. O'r gogledd roedd hi'n dod os cofia i'n iawn.

Does dim amheuaeth da fi taw cyfieithiad o 'Ebbw Vale' yw Glynebwy, ond mae'r silliafiad yn ufuddhau i reolau sillafu enwau lleoedd Cymraeg, cf. Glyndyfrdwy, Glyncorrwg, Glynegwystl, ac yn bwysicach fyth, Glynebwy yw'r ffurf a geir yn yr enwog Y Rhestr o Enwau Lleoedd (A Gazatteer of Welsh Place-Names).
Post Reply