Cwpan SWALEC: Glynebwy yn erbyn Llanymddyfri

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Cwpan SWALEC: Glynebwy yn erbyn Llanymddyfri

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Mewn gêm agos iawn yn EXP y prynhawn ’ma, bu Tîm Rygbi Llanymddyfri (sy’n ail yn Uwch-adran Cymru) yn drech na Glynebwy (sy’n arwain y Bencampwriaeth o 30 o bwyntiau). Llongyfarchion i Lanymddyfri, a phob lwc yn y gystadleuaeth eleni. Cydymdeimladau â Glynebwy a phob lwc gyda gweddill y tymor. Rwy’n mawr obeithio eu gweld nhw yn yr Uwch-adran y flwyddyn nesaf.
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Re: Cwpan SWALEC: Glynebwy yn erbyn Llanymddyfri

Post by ebbwboy »

Seisyll ap Dyfnwal wrote:Mewn gêm agos iawn yn EXP y prynhawn ’ma, bu Tîm Rygbi Llanymddyfri (sy’n ail yn Uwch-adran Cymru) yn drech na Glynebwy (sy’n arwain y Bencampwriaeth o 30 o bwyntiau). Llongyfarchion i Lanymddyfri, a phob lwc yn y gystadleuaeth eleni. Cydymdeimladau â Glynebwy a phob lwc gyda gweddill y tymor. Rwy’n mawr obeithio eu gweld nhw yn yr Uwch-adran y flwyddyn nesaf.
Helo Seisyll, sut wyt ti? Anghytuno bod Llanymddyfri yn "drech na Glynebwy" - ni oedd y tîm gwell am ran fwyaf y gêm, ac roedd eu cais nhw yn eitha lwcus a dweud y gwir! Ddylen ni fod wedi sgorio dwy/tairgwaith cyn yr egwyl, ond ni oedd ar bai am fethu gwneud, ac roedd hynny'n siomedig iawn. Dwi ddim am drafod perfformiad y tyfarnwr, ond roedd ei ddihongliad o'r cyfreithiau ynglŷn â'r sgrym yn "ddiddorol" iawn!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Post Reply