Y gêm yn erbyn Aberafan

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Y gêm yn erbyn Aberafan

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Llwyddais i fynd i weld y gêm yn erbyn Aberafan ddoe - y tro cynta imi ymweld â Chae'r Talbot Athletig - ac rhaid imi gyfadde imi gael fy siomi ar yr ochr orau gan y cyfleustreau yno - heblaw am y parcio! Roedd y tywydd yn braf, ac ro'n i'n disgwyl gweld gêm gyffrous iawn. Fodd bynnag, ro'n i'n siomedig iawn gyda pherfformiad Glynebwy yn erbyn 14 dyn am y rhan fwya o'r gêm, a doedd penderfyniadau 'anghyson' y dyfarnwr rhyngwladol ddim yn helpu chwaith. O leia, daethon ni i ffwrdd â phwynt bonws; mawr obeithiaf y gallwn godi safon ein chwarae yn erbyn Ponty yn y cwpan ddydd Sadwrn nesa. A dwgyd arwyddair rhyw glwb arall o'r gorllewin, Ymlaen Glynebwy!
Post Reply