Perfformiad ardderchog yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Perfformiad ardderchog yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Longyfarchion i Lynebwy ar berfformiad ardderchog yn erbyn y Dynion Haearn ym Mharc-y-pandy, Crosskeys, ddoe (07/04/2018). Oherwydd yr amodau, bu rhaid amddiffyn am gyfnodau hir yn erbyn tîm yr oedd yr amodau gwlyb yn ffafrio eu pac trwm nhw. Yr amodau llithrig hefyd oedd yn gyfrifol am y 'camgymeriad' a arweiniodd at gais Merthyr; doedd neb ar fai. Ro'n ni yn y gêm hyd at y chwiban olaf, ac efallai y dylid fod wedi parhau â'r sgarmes symudol reit ar ddiwedd y gêm, yn lle ceisio lledu'r bêl; ro'n ni mor agos i'w llinell gais nhw. Ond dw i ddim yn gwybod beth ddwedodd y dyfarnwr wrth y chwaraewyr, oedd, yn fy marn i, wedi cael gêm ardderchog ei hunan. (Pob lwc i Craig wrth iddo ddyfarnu yng Ngemau'r Gymanwlad yr wythnos nesaf.) Nawr beth am osod y nod o ennill pob gêm tan ddiwedd y tymor....
Post Reply