Ebbw ar y telebocs

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Gazza
Posts: 18
Joined: 08 Dec 2007 11:55
Location: Glynebwy/Ebbw - mun!

Ebbw ar y telebocs

Post by Gazza »

Tymor newydd o rygbi ar S4C
29/08/2008

Bydd holl gyffro prif gystadleuaeth clybiau Cymru ar ei newydd wedd yn cael ei ddarlledu hefyd, gyda 10 gêm fyw o Brif Gynghrair Y Principality. Y darllediad cyntaf fydd gornest leol rhwng dau dîm o Went, Glyn Ebwy a Chasnewydd.


(Gwefan S4C)

Gêm gyntaf mis Hydref fydd hi os cofia i'n iawn!
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Ebbw ar y telebocs

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Gazza wrote:Tymor newydd o rygbi ar S4C
29/08/2008

Bydd holl gyffro prif gystadleuaeth clybiau Cymru ar ei newydd wedd yn cael ei ddarlledu hefyd, gyda 10 gêm fyw o Brif Gynghrair Y Principality. Y darllediad cyntaf fydd gornest leol rhwng dau dîm o Went, Glyn Ebwy a Chasnewydd.


(Gwefan S4C)

Gêm gyntaf mis Hydref fydd hi os cofia i'n iawn!
Rwy'n edrych ymlaen yn arw, yn enwedig ar ôl y canlyniad ardderchog yn erbyn Ponty heddiw. Da iawn, bois!
Gazza
Posts: 18
Joined: 08 Dec 2007 11:55
Location: Glynebwy/Ebbw - mun!

Post by Gazza »

Treuni am y tywydd! Ddim yn hysbys dda iawn ar gyfer rygbi agored wrth gwrs, yn enwedig o flaen y camerâu.

Braf cael y camerâu o gwmpas i roi tipyn bach o sylw i'r clwb, beth bynnag.

Treuni am y canlyniad 'fyd, yn enwedig gêm olaf Will Thomas.
dyn y dur
Posts: 47
Joined: 12 Oct 2006 19:13

Post by dyn y dur »

ie, siom mawr. Roedd y gem yn ddiflas jyst fel y tywydd.
on i eisiau recordio'r gem i glywed beth oedd y sylwebaeth yn dweud am y clwb ac ati ond fasai fy mlydi fideo ddim yn gweithio.

Ron i yn y eisteddle a gwelais i Alun Evans yn cael ei gyfweld gan Sara Elgan (roedd hi'n edrych yn bert iawn :wink: ). oes unrhywun yn gwybod beth ddywedodd e ?
Gazza
Posts: 18
Joined: 08 Dec 2007 11:55
Location: Glynebwy/Ebbw - mun!

Post by Gazza »

Ron i yn y eisteddle a gwelais i Alun Evans yn cael ei gyfweld gan Sara Elgan (roedd hi'n edrych yn bert iawn :wink: ). oes unrhywun yn gwybod beth ddywedodd e ?[/quote]

Do, roeddwn i yn yr eisteddle hefyd - a dwi'n cytuno â'r farn uchod am y Gyflwynwraig hefyd :wink:

Fel rhywun trist, aeth tâp fideo i mewn i'r peiriant recordio cyn gadael y ty!! Roedd cyfweliad Alun yn wych - un o'r gorau ar y bocs. Sylwadau diffuant a ffeithiol fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl, wrth gwrs. Dywedodd e ei fod e'n eithaf hapus gyda dechrau'r tymor hyd yn hyn gyda hyfforddwyr a thîm eithaf ifanc, a soniodd e ychydig am y gêm, gan ganmol gwaith y blaenwyr yn erbyn yr elfennau.

Serch hynny, doedd dim llawer o Gymraeg i'w chlywed fel arall - roedd hynny'n siom i fi a dweud y gwir. Er taw Casnewydd roedden ni'n ei wynebu, byddai ychydig bach mwy o'r Gymraeg yn ddelwedd dda i'r clwb. Gair o groeso efallai?
Post Reply