Eisteddfod

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Gazza
Posts: 18
Joined: 08 Dec 2007 11:55
Location: Glynebwy/Ebbw - mun!

Eisteddfod

Post by Gazza »

Dw i'n trio meddwl am ffordd o gysylltu thema rygbi - a Glynebwy - â'r Eisteddfod - ond alla i ddim!! :?

Jyst rhag ofn nad ydych chi wedi clywed bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Glynebwy nos Fercher, 22 Hydref am 6.00 i sôn am yr Eisteddfod.

Mae Menter Iaith newydd wedi'i sefydlu ar gyfer Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. Roedd cyfarfod y mis diwethaf i hel syniadau ar gyfer digwyddiadau posibl yn y dyfodol, neu rywbeth hoffai rhywun ei weld yn cael ei drefnu yn yr ardal trwy gyfrwng y Gymraeg. Croeso i chi nodi'ch awgrymiadau - gorau po fwyaf!!
dyn y dur
Posts: 47
Joined: 12 Oct 2006 19:13

Post by dyn y dur »

Alla i ddim mynd i'r cyfarfod yn anffodus wi'n gweithio ond mae diddordeb 'da fi.

Os wyt ti'n mynd Gazza taset ti'n ddweud wrthyn ni wedyn beth ddigwyddod yn y cyfarfod, a phwy a sawl oedd yno ac ati. baswn i'n ddiolchgar.
Gazza
Posts: 18
Joined: 08 Dec 2007 11:55
Location: Glynebwy/Ebbw - mun!

Post by Gazza »

Sori am gymryd cyhyd i ateb, Dyn y Dur - 'problemau technegol' fel maen nhw'n dweud!

Cyfarfod da, a'r neuadd dan ei sang a dweud y gwir. Calonogol iawn! Roedd swyddogion yr Eisteddfod yn sôn am beth yw diben yr Eisteddfod, a'r gwaith trefnu/codi arian fydd eisiau'i wneud rhwng nawr a 2010.

Bydd cyfarfod nesaf fore Sadwrn, 7fed Tachwedd am 10.30. Bron yn siwr mai yn y Ganolfan Hamdden fydd e, ond mae'n well i fi gadarnhau hynny. Byddan nhw'n sefydlu a threfnu'r gwahanol bwyllgorau yn y cyfarfod.

Gobeithio taw cyfafarfod byw fydd e - mae gêm Cymru yn erbyn De Affrica yn y prynhawn, ac mae eisiau digon o amser i drio ymladd ein ffordd i gyrraedd Stadiwm y Mileniwm :(
Post Reply