Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Dw i newydd ymweld â gwefan Undeb Rygbi Cymru i ddarllen yr adroddiad ar y rhesymeg tu ôl i gynyddu nifer y clybiau yn yr uwchadran arfaethedig o 10 i 12. Dw i ddim eisiau codi nyth cacwn am hynny nawr. Yr hyn a'm synnodd i fwyaf oedd y ffaith fod y wefan yn uniaith Saesneg! All rhywun arall gadarnhau hynny? (Mae'n bosib fy mod i heb weld y botwm Cymraeg.)
Jonny Bonkers
Posts: 127
Joined: 01 Mar 2005 19:53
Location: Sheepsville

Re: Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Post by Jonny Bonkers »

Ydy, mae'n edrych yn debyg y wefan wedi ei ysgrifennu yn Saesneg yn unig. Does bosib rhaid i hwn fod yn goruchwylio gan Undeb Rygbi Cymru?
What's that coming over the hill, is it my daddy?
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Re: Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Post by ebbwboy »

Dwi newydd ddarganfod tudalen sy'n esbonio (wel, sy'n ceisio esbonio) rhesymau am ddiffyg Cymraeg ar wefan y WRU.

http://www.wru.co.uk/cymraeg.php

"Mae Undeb Rygbi Cymru ymrwymedig i'r iaith Gymraeg. Ar ôl ail-lansio gwefan URC yr ydym yn y broses o ddatblygu fersiwn Cymraeg ac yn anelu i gyhoeddi'r wefan newydd yn y dyfodol agos."

Dyma gwestiwn i'r URC: beth am drefnu cyfieithiad cyn ail-lansio gwefan newydd???
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
dyn y dur
Posts: 47
Joined: 12 Oct 2006 19:13

Re: Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Post by dyn y dur »

Dwi'n cytuno Ebbw Boy. Os ydyn nhw wedi mabwysiadu polisi dwyieithog yn sicr y ddylen nhw gyhoeddi popeth yn y ddwy iaith ar yr un pryd !
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Re: Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Post by ebbwboy »

Dychmygwch: yr URC yn malu awyr!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Post Reply