Llongyfarchion!
Moderator: ebbwboy
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Llongyfarchion!
Llongyfarchion i'r bois am fynd mor bell yng Nghwpan SWALEC eleni. Maen nhw'n chwarae ar safon uchel iawn ar hyn o bryd, a doedd heddiw ddim yn eithriad. Ond hoffwn i gael gwybod a oes modd hawlio ein bod ni heb golli heddiw oherwydd y sgôr gyfartal ar ddiwedd y gêm? Wedi'r cyfan XKeys sydd yn y rownd derfynol, nid Glynebwy. Plis, all rhywun fy helpu i gyda'r pos hwn?
-
- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
Re: Llongyfarchion!
Cwestiwn diddorol, Seisyll. Chi'n iawn, wrth gwrs, taw Cross Keys sy'n mynd trwodd i'r rownd derfynol. Ond, yn fy marn i, enillon nhw'r gem ar bwynt technegol, sef rheolau'r cystadleuaeth, yn hytrach na gan sgorio mwy o bwyntiau na ni ar y maes chwarae.Seisyll ap Dyfnwal wrote:Llongyfarchion i'r bois am fynd mor bell yng Nghwpan SWALEC eleni. Maen nhw'n chwarae ar safon uchel iawn ar hyn o bryd, a doedd heddiw ddim yn eithriad. Ond hoffwn i gael gwybod a oes modd hawlio ein bod ni heb golli heddiw oherwydd y sgôr gyfartal ar ddiwedd y gêm? Wedi'r cyfan XKeys sydd yn y rownd derfynol, nid Glynebwy. Plis, all rhywun fy helpu i gyda'r pos hwn?
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Re: Llongyfarchion!
Cwestiwn cwis tafarn at y dyfodol: "Pa dîm aeth allan yn rownd gynderfynol Cwpan SWALEC heb golli'r un gêm?" Oni bai fod rhyw dîm arall wedi gwneud yr un peth heb yn wybod i mi. Gan eu bod nhw'n cael eu chwarae ar feysydd niwtral, hwyrach y dylid ystyried newid y rheolau ar gyfer y rowndiau gynderfynol i sicrhau fod un tîm yn sgorio mwy o bwyntau na'r llall!
Ro'n i'n drist iawn i glywed y canlyniad yn erbyn Trecelyn ddoe. (Ond llongyfarchion i Drecelyn yr un peth, wrth gwrs.) O leiaf, rwy'n gallu dilyn y bois ar Drydar nawr. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r clwb am y gwasanaeth hwnnw.
Ro'n i'n drist iawn i glywed y canlyniad yn erbyn Trecelyn ddoe. (Ond llongyfarchion i Drecelyn yr un peth, wrth gwrs.) O leiaf, rwy'n gallu dilyn y bois ar Drydar nawr. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r clwb am y gwasanaeth hwnnw.
-
- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
Re: Llongyfarchion!
Ie, cytuno'n hollol. O ie, fi sy'n trydar y newyddion yn fyw!Seisyll ap Dyfnwal wrote: O leiaf, rwy'n gallu dilyn y bois ar Drydar nawr. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r clwb am y gwasanaeth hwnnw.
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.