Cwpan SWALEC: Glynebwy yn erbyn Llanymddyfri
Moderator: ebbwboy
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Cwpan SWALEC: Glynebwy yn erbyn Llanymddyfri
Mewn gêm agos iawn yn EXP y prynhawn ’ma, bu Tîm Rygbi Llanymddyfri (sy’n ail yn Uwch-adran Cymru) yn drech na Glynebwy (sy’n arwain y Bencampwriaeth o 30 o bwyntiau). Llongyfarchion i Lanymddyfri, a phob lwc yn y gystadleuaeth eleni. Cydymdeimladau â Glynebwy a phob lwc gyda gweddill y tymor. Rwy’n mawr obeithio eu gweld nhw yn yr Uwch-adran y flwyddyn nesaf.
-
- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
Re: Cwpan SWALEC: Glynebwy yn erbyn Llanymddyfri
Helo Seisyll, sut wyt ti? Anghytuno bod Llanymddyfri yn "drech na Glynebwy" - ni oedd y tîm gwell am ran fwyaf y gêm, ac roedd eu cais nhw yn eitha lwcus a dweud y gwir! Ddylen ni fod wedi sgorio dwy/tairgwaith cyn yr egwyl, ond ni oedd ar bai am fethu gwneud, ac roedd hynny'n siomedig iawn. Dwi ddim am drafod perfformiad y tyfarnwr, ond roedd ei ddihongliad o'r cyfreithiau ynglŷn â'r sgrym yn "ddiddorol" iawn!Seisyll ap Dyfnwal wrote:Mewn gêm agos iawn yn EXP y prynhawn ’ma, bu Tîm Rygbi Llanymddyfri (sy’n ail yn Uwch-adran Cymru) yn drech na Glynebwy (sy’n arwain y Bencampwriaeth o 30 o bwyntiau). Llongyfarchion i Lanymddyfri, a phob lwc yn y gystadleuaeth eleni. Cydymdeimladau â Glynebwy a phob lwc gyda gweddill y tymor. Rwy’n mawr obeithio eu gweld nhw yn yr Uwch-adran y flwyddyn nesaf.
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.