Cefnogi Rygbi Proffesiynol yng Nghymru
Moderator: ebbwboy
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Cefnogi Rygbi Proffesiynol yng Nghymru
Yn sgil y timau o Gymru'n cael eu taflu ma's o'r Gynghrair Geltaidd, efallai nid nawr yw'r amser gorau i ofyn y cwestiwn yma, ond hoffwn i gael gwybod faint ohonon ni fyddai'n cefnogi'r Dreigiau petai 'Casnewydd' a/neu 'Gwent' yn cael eu hepgor o'r teitl. Mae'r Gweilch yn mynd i gael gwared ag 'Abertawe' a 'Castell-nedd' o'u teitl nhw, felly, pam na all yr un peth ddigwydd yn achos y timau proffesiynol eraill?
-
- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
Heb 'Casnewydd' yn y teitl? Ni fyddai'n ddigon imi; byddai'n raid iddynt chwarae rhai gemau ym Mhontypwl, Glynebwy etc a ddangos agwedd mwy 'rhanbarthol'. Pe buasai'r pethau hyn yn digwydd, wel, efallai, efallai.
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Es i i weld Stadiwm y Morfa (a gwneud tipyn bach o siopa'r un pryd!). Mae'n wych. Os na cheir newidiadau sylweddol yng Ngwent yn fuan, fe fydda i'n mynd i Abertawe i weld rygbi rhanbarthol yn y dyfodol.ebbwboy wrote:Heb 'Casnewydd' yn y teitl? Ni fyddai'n ddigon imi; byddai'n raid iddynt chwarae rhai gemau ym Mhontypwl, Glynebwy etc a ddangos agwedd mwy 'rhanbarthol'. Pe buasai'r pethau hyn yn digwydd, wel, efallai, efallai.
-
- Posts: 183
- Joined: 05 Mar 2005 22:10
Heb 'Casnewydd' yn y teitl?
Dim gobaith goo boy, ond yn y diwedd fe fyn y gwir ei le.
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Re: Heb 'Casnewydd' yn y teitl?
Elli di ailadrodd, plis. Dw i 'bach yn drwm fy nghlyw!Audi Diesel wrote:Dim gobaith goo boy, ond yn y diwedd fe fyn y gwir ei le.
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Re: Heb 'Casnewydd' yn y teitl?
Mae hyn yn awgrymu dy fod yn credu/teimlo fod 'rhanbarth' arall yn mynd i fynd cyn bo hir. Os felly, p'un 'ti'n meddwl?Audi Diesel wrote:Dim gobaith goo boy, ond yn y diwedd fe fyn y gwir ei le.
-
- Posts: 171
- Joined: 28 Feb 2005 21:17
- Location: Ebbw Vale
Es i i weld y gem rhwng y Dreigiau ar Gweilch a mae rhaid ddweud or tu-fas maer stadiwm yn arbennig. Fel Stadiwm y Millenium fach. Maer tu-fewn hefyd yn edrych yn dda, ond oherwydd maen mor fawr does dim atmosffer o gwbl. Mae pawb mor bell i fwrdd o'i gilydd does dim llawer o swn. Cymra'i Rodney Parade dros Stadiwm Newydd unrhyw diwrnod.
...GARN RFC...
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
-
- Posts: 171
- Joined: 28 Feb 2005 21:17
- Location: Ebbw Vale
Dwi'n gweld beth rydych chi'n trio dweud, ond maer Stadiwm mor fawr rydw i'n credu galla fe ddim dod unrhywle yn agos i'r awyrgylch agos yn Rodney Parade. Maer pobl more agos a maer aqyrgylch mor **intense a **hostile. Efallai y rheswm mae Rodney Parade fel mae o' ddim dim byd i wneud gyda'r **ground, ond yn lle y rheswm yw maer cefnogwyr mor ffyrnig.
Ymddiheuriad fawr am fy Cymraeg anfoddhaol.
Ymddiheuriad fawr am fy Cymraeg anfoddhaol.
...GARN RFC...