BBC Cymru

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

BBC Cymru

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Beth sydd gan BBC Cymru yn erbyn Clwb Rygbi GLYNEBWY? Prin y bydden nhw'n dod i ddarlledu gêmau o EXP pan o'n ni'n glwb proffesiynol a dw i ddim yn cofio gweld camerâu BBC Cymru yno o gwbl ers dechrau rygbi 'rhanbarthol'. P'run bynnag, Fel y gall dyn ei ddisgwyl, ro'n i'n hapus iawn ar ôl y gêm yn erbyn Abertawe ddoe. Yn y car ar y ffordd adre, trois i Radio Cymru ymlaen i gael gwybod beth oedd y sgoriau yn y gêmau eraill. Dim sôn am Lynebwy tan jyst cyn dechrau'r gêm rhwng y Sgarlets a Connacht, pan gyhoeddodd Eleri Siôn ganlyniadau gêmau'r Uwch-adran, a phryd y dywedwyd bod Abertawe wedi CURO Glynebwy (Dw i ddim yn cofio'r sgôr a roddwyd.) ar Barc VIRGINIA! :o A bod yn garedig â BBC Cymru, dyma esgeulustod newyddiadurol ar ei orau (neu ar ei waetha). :wink:
Last edited by Seisyll ap Dyfnwal on 23 Sep 2005 23:50, edited 1 time in total.
Audi Diesel
Posts: 183
Joined: 05 Mar 2005 22:10

Post by Audi Diesel »

Ta waeth am hynny. Mwy na thebyg just anallu. Paid poeni.
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Post by ebbwboy »

Ar ol gweithio yn Coventry dydd Sadwrn, roeddwn i'n ymgyrru lawr y M50 gyda fy nhad ar y 'handsfree' (dimdwylo???) o Barc Eugene Cross a Radio Wales ar y radio. Yn ol fy nhad, roedden ni wedi ennill 22-18 ond, yn ol y BBC, roedden ni wedi colli 5-8 (sgor ar yr egwyl!) Ond i fod yn deg i'r Beeb, nid just Glynebwy yn unig oedd e: enillodd Glam Wanderers a Bedwas hefyd yn eu hol nnhw!
Gan son am gamgymeriadau, roedd wefan y WRU yn ragweld gem cystadleuol iawn ar San Helen achos doedd Abertawe ddim wedi bod yn chwarae'n dda eto a dydy Glynedwy ddim yn teithio'n lwyddianus!
:roll:
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

ebbwboy wrote:Ar ol gweithio yn Coventry dydd Sadwrn, roeddwn i'n ymgyrru lawr y M50 gyda fy nhad ar y 'handsfree' (dimdwylo???) o Barc Eugene Cross a Radio Wales ar y radio. Yn ol fy nhad, roedden ni wedi ennill 22-18 ond, yn ol y BBC, roedden ni wedi colli 5-8 (sgor ar yr egwyl!) Ond i fod yn deg i'r Beeb, nid just Glynebwy yn unig oedd e: enillodd Glam Wanderers a Bedwas hefyd yn eu hol nnhw!
Gan son am gamgymeriadau, roedd wefan y WRU yn ragweld gem cystadleuol iawn ar San Helen achos doedd Abertawe ddim wedi bod yn chwarae'n dda eto a dydy Glynedwy ddim yn teithio'n lwyddianus!
:roll:
Rwy'n falch i glywed mod i'n 'paranoid'. Am funud ro'n i meddwl bod problem 'da fi 8)
Last edited by Seisyll ap Dyfnwal on 22 Sep 2005 00:29, edited 1 time in total.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Sut mae dileu post? :?
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Post by ebbwboy »

Seisyll ap Dyfnwal wrote:Sut mae dileu post? :?
Defnyddiwch botwm 'edit'.
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Rhaid ichi faddau imi. Dw i wedi gwneud cawlach unwaith eto. Beth dw i moyn ei wneud yw DILEU'r post yma, ond rwy'n ffaelu gweithio ma's sut - hyd yn oed ar ôl awgrym caredig ebbwboy. :?

O.N. Dw i newydd sylwi ar ysgrifen ar waelod y tudalen sy'n dweud fy mod i'n FFAELU dileu 'posts', felly, dyna fe.
Post Reply