Glynebwy v. Merthyr
Moderator: ebbwboy
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Glynebwy v. Merthyr
Dilynais i'r gêm ar Drydar ddoe - yn ôl fy arfer y dyddiau ma! Roedd popeth fel petai hi'n mynd yn iawn tan y 10 munud olaf; ro'n i'n ffaelu credu'r trydar yn dweud ein bod ni i lawr i 12 dyn! Pam? 'Bizzare' oedd y gair a gafodd ei drydar. Ond p'run bynnag. Rwy'n ysgrifennu nawr i longyfarch pwy bynnag sy'n gyfrifol am ar adroddiad swyddogol ar wefan y clwb (https://www.evrfc.co.uk/results/sept-30 ... v-merthyr/). Mae'n wych fy mod i'n gallu darllen yr adroddiad yn Gymraeg yn ogystal ag yn yr iaith fain.
-
- Posts: 328
- Joined: 01 Mar 2005 18:16
- Location: By one of the ponds Corus wanted to drain.
- Contact:
Re: Glynebwy v. Merthyr
Fi sy'n ysgrifennu'r adroddiadau Saesneg a Chymraeg. FI, hefyd, sy'n "trydaru" yn ystod y gêm. Diolch am eich geiriau caredig.
Ein taith i Gastell Newydd Emlyn yn y cwpan y llynedd oedd yn f'ysbrydoli i sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle mwy amlwg ar ein gwefan ac ar drydar. Felly 'tweets' dwyieithog ac adroddiadau yn y ddwy iaith.
Ein taith i Gastell Newydd Emlyn yn y cwpan y llynedd oedd yn f'ysbrydoli i sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle mwy amlwg ar ein gwefan ac ar drydar. Felly 'tweets' dwyieithog ac adroddiadau yn y ddwy iaith.
Don't forget, you read it here first. (Unless it's rubbish, then please assume you read it elsewhere.)