Beth sy'n digwydd?
Moderator: ebbwboy
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Beth sy'n digwydd?
Dw i ddim wedi cael cyfle i ddod i weld Glynebwy yn chwarae ers rhai wythnosau bellach. Ond dw i wostod yn tiwnio i mewn i Radio Cymru ar brynhawn dydd Sadwrn i glywed y canlyniadau. Ddoe, ro'n i'n syn iawn i glywed bod Glynebwy wedi colli yn erbyn Bedwas. Oes gan rywun unrhyw syniad pam nad ydyn ni'n ennill gêmau ar hyn o bryd? Dyw hi ddim fel petaen ni'n cael cot bob wythnos chwaith - jyst COLLI! (Wedi dweud hynny, ro'n i'n bresennol pan enillon ni yn erbyn Caerdydd a Phen-y-bont, felly, gobeithio nad yw canlyniadau eleni yn dibynnu ar fy mhresenoldeb i!)
-
- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
Re: Beth sy'n digwydd?
Dydyn ni ddim yn chwarae yn ddigon dda i enill, a rydyn ni wedi haeddu golli bob gem ond Caerdydd ac Abertawe (nid Penybont, fel dwedaist ti!) Dydy'r blaenwyr ddim yn gallu cystadlu am 80 munud ac mae pob tim nawr yn defnyddio'r 'rolling maul' yn erbyn ni achos dydyn ni ddim yn gallu diffynu'r ddull chwarae. Hefyd, does neb ar ein tim yn trefnu pethau ar y cae (wel dyna sut mae'n ymweld i mi, beth bynnag).Seisyll ap Dyfnwal wrote:Dw i ddim wedi cael cyfle i ddod i weld Glynebwy yn chwarae ers rhai wythnosau bellach. Ond dw i wostod yn tiwnio i mewn i Radio Cymru ar brynhawn dydd Sadwrn i glywed y canlyniadau. Ddoe, ro'n i'n syn iawn i glywed bod Glynebwy wedi colli yn erbyn Bedwas. Oes gan rywun unrhyw syniad pam nad ydyn ni'n ennill gêmau ar hyn o bryd? Dyw hi ddim fel petaen ni'n cael cot bob wythnos chwaith - jyst COLLI! (Wedi dweud hynny, ro'n i'n bresennol pan enillon ni yn erbyn Caerdydd a Phen-y-bont, felly, gobeithio nad yw canlyniadau eleni yn dibynnu ar fy mhresenoldeb i!)
Mae'n siomedig iawn ond dydw i ddim yn gallu gweld pethau'n newid.
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Re: Beth sy'n digwydd?
Gweles i'r ddwy gêm hyn, wir i ti, ond rhag fy nghywilydd am gymysgu Abertawe â Phen-y-bont ar Ogwr!ebbwboy wrote:Dydyn ni ddim yn chwarae yn ddigon dda i enill, a rydyn ni wedi haeddu golli bob gem ond Caerdydd ac Abertawe.