Y gêm yn erbyn Llanymddyfri

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Y gêm yn erbyn Llanymddyfri

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Dw i ddim wedi cael cyfle i fynd a gweld Glynebwy'n chwarae am sbel, ac felly, ro'n i'n edrych ymlaen yn arw pan ddaethon nhw i'r canolbarth i chwarae yn erbyn Llanymddyfri. Cyrhaeddes i'r maes tamed bach yn ddiweddar, ac roedd Glynebwy eisoes ar ei hôl hi o 3 phwynt. Wrth i'r hanner cynta fynd yn ei blaen, roedd hi'n amlwg nad o'n ni'n mynd i sgorio'r un pwynt. Ond dyma fi'n meddwl bod nhw'n bownd o bigio i fyny ar ôl yr egwyl. Cafwyd rhyw chwarter awr o ymdrech ar ddechrau'r ail hanner, ond, hyd y gwela i, gallen ni fod wedi aros tan nawr, a bydden ni'n dal i aros i Lynebwy sgorio! Yn fy mhost Saesneg ar y pwnc, sonies i am y dyfarnwr, tactegau arafu Llanymddyfri a chwaraewyr rhanbarthol, ond dyw hynny'n cymryd dim i ffwrdd oddi wrth berfformiad annerbyniol y tîm ddydd Sadwrn. Hoffwn i gael gwybod beth mae pobol eraill yn feddwl? :cry:
Last edited by Seisyll ap Dyfnwal on 12 Dec 2005 23:34, edited 1 time in total.
Mykal
Posts: 138
Joined: 01 Mar 2005 08:30
Location: Work (But, sshh, keep it to yourself)

Post by Mykal »

Seisyll bach, yn anffodus mae perfformiadau fel dydd Sadwrn yn anferol, nid yn anaml. Doeddwn I ddim yn y gem, ond rwyn wedi gweld digon o perfformiadau fel yn y Crwydriaid ac yng Nghaerdydd ac yn gormod o gemau y tymor yma i wybod am beth mae pawb yn son.

Fel a dywedodd rhywun mewn post arall, dydy ni ddim wedi cael dyfarnwr wael ym mhob gem, a dyw pob tim ddim yn chware chwaraewy rhanbarthol, allai ni beio neb ond ein hynain.

Mae'n fwy a fwy amlwg bod yna rhywbeth yn ddrwg o fewn y clwb. Mae digon o safon ymlith y chawarewyr i fod yn uwch yn y tabl, ond does dim hwyl, dim arwainiaeth naillai ar y cae neu bant a dim patrwm na siap i'r chwarae. Mae rhaid gwneud newidiadau cyn bod hi'n rhy hwyr.
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Post by ebbwboy »

Mykal wrote:Seisyll bach, yn anffodus mae perfformiadau fel dydd Sadwrn yn anferol, nid yn anaml.
Yn anffodus, Mykal, ti'n hollol gywir. Wedi dweud hyn, dwi ddim wedi gweld perfformiad mor siomedig a ddydd Sadwrn ers gem y cwpan yn erbyn Talywain yn ol yn 1992 neu 3 (??). Dwi'n poeni y byddwn ni'n chwarae mewn Adran 1 y tymor nesaf ac, a dweud y gwir, byddwn ni'n haeddu'w wneud.

Nadolig llawen... :roll:
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Post Reply