S Tuipulotu

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

S Tuipulotu

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Ar hafan y clwb, sylwais fod enw S Tuipulotu ymhlith eilyddion Glynebwy ar gyfer y gêm yn erbyn Crwydriaid Morgannwg ddydd Sadwrn. Rwy'n cymryd taw'r aelod o garfan y Dreigiau yw e. Os felly, ai dyma'r tro cyntaf i aelod o garfan y Dreigiau droi ma's i Lynebwy? A pham taw ar y fainc mae e? Holl bwynt rhoi benthyg chwaraewyr "rhanbarthol" i glybiau'r Uwch-adran yw fel y gallan nhw gael ymarfer, on'd ife? Wrth gwrs, falle taw cambrint yw e. All rhywun roi eglurhad imi? :?
Post Reply