Y tymor newydd

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Y tymor newydd

Post by ebbwboy »

Wel, beth am y tymor hyd yn hyn? Oes un dim yn well na'r eraill fel yr oedd Castell Nedd y tymor diwethaf neu ydy'r timau i gyd yn fwy ar yr un lefel?
Beth am lynebwy? Ym mynd am y pencampwriaeth, setlo am ddiogelwch canol y cynghrair neu ymladd yn erbyn alltudiaeth?
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Y tymor newydd

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

ebbwboy wrote:Wel, beth am y tymor hyd yn hyn?
Yn anffodus, dw i ddim wedi cael cyfle i weld Glynebwy chwarae o gwbl y tymor hwn eto. Pryd rydyn ni'n chwarae Llanymddyfri oddi cartre?
dyn y dur
Posts: 47
Joined: 12 Oct 2006 19:13

Post by dyn y dur »

wel helo na !

Dwi wedi bod yn meddwl pethau debyg i ti Ebbwboy. Mae'n anodd i ddweud hyd yn hyn ond yw hi.
dwi'n credu y bydd y cynghrair yn lot fawr agosach nag y llynedd.

Beth am Lyn Ebwy te ? Eto pwy yw wyr. On i'n siomedig dros ben gyda perfformiad yn erbyn Casnewydd ond p'nawn Sadwrn diwethaf yn erbyn Aberafon oeddan nhw lot fwy addawol.

Os ydyn ni'n gallu rhoi ein pymtheg gorau ar y maes, wi'n credu yn wir bod ni'n gallu curo unrhywun.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

dyn y dur wrote:wel helo na !
Os ydyn ni'n gallu rhoi ein pymtheg gorau ar y maes, wi'n credu yn wir bod ni'n gallu curo unrhywun.
Dw i'n siomedig iawn. Mae Glynebwy'n cael eu tymor gorau ers blynyddoedd lawer, ond mae yna lai o gyfle gen i i'w gweld nhw nag erioed o'r blaen! :cry:
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Post by ebbwboy »

Seisyll ap Dyfnwal wrote:
dyn y dur wrote:wel helo na !
Os ydyn ni'n gallu rhoi ein pymtheg gorau ar y maes, wi'n credu yn wir bod ni'n gallu curo unrhywun.
Dw i'n siomedig iawn. Mae Glynebwy'n cael eu tymor gorau ers blynyddoedd lawer, ond mae yna lai o gyfle gen i i'w gweld nhw nag erioed o'r blaen! :cry:
Dyna anffodus Seisyll. Efallai, bydd Sion Corn yn dod a rywbeth arbennig iti dros y 'Dolig i wneud yn bosibl iti weld mwy o "Dynion y Dur" yn y flwyddyn newydd!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Post Reply