Crwydriaid Morgannwg fory

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Crwydriaid Morgannwg fory

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Dim ond gair bach i ddymuno pob lwc fory. Yn anffodus, fe fydda i yn y gogledd.
dyn y dur
Posts: 47
Joined: 12 Oct 2006 19:13

Post by dyn y dur »

Fydda i ddim yno chwaith. Bydda i'n gwrandro ar y radio am y sgor.

Ydych chi'n deall "gog" Seisyll ? Mae gen i trafferth mawr gyda'r iaith y gogledd.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Ydych chi'n deall "gog" Seisyll ? Mae gen i trafferth mawr gyda'r iaith y gogledd.
Rwy'n cael trafferth gydag iaith y Cardis ambell waith! Ond o ddifri, does dim cymaint â hynny o wahaniaeth rhwng iaith y De ac iaith y Gogledd. Cofia dy fod yn gwrando ar Radio Cymru yn y car ac ymweld â gwefan 'Cymru'r Byd' pan gei di gyfle. Mwya y byddi di'n clywed y Gymraeg mwya y byddi di'n ei deall.

Trueni am y canlyniad heddi.
dyn y dur
Posts: 47
Joined: 12 Oct 2006 19:13

Post by dyn y dur »

Dwi'n siwr fod ti'n iawn ynglyn a'r Gymraeg. Achos mod i'n byw yng Nglyn Ebwy dwi ddim yn defnyddio Cymraeg ac efallai fy mod i'n mynd yn ddiog ar ol wneud yr ymdrech i ddysgu un y lle cyntaf.

ydi, trueni am y canlyniad ond yn ni'n wedi ennill tair o'r bedair gem annodd oddi gartref yn ddiweddar, felly wi'n credu bod ni'n wedi gwneud yn dda. Wedi dweud hynny fe fydd rhaid i ni wella os ydyn ni'n mynd i herio am y teitl.
Post Reply