Y gêm yn erbyn y Porthmyn

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Y gêm yn erbyn y Porthmyn

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Pob lwc i Lynebwy yn erbyn Llanymddyfri ddydd Sadwrn. Ond dyw rhagolygon y tywydd ddim yn rhy dda.
Gazza
Posts: 18
Joined: 08 Dec 2007 11:55
Location: Glynebwy/Ebbw - mun!

Post by Gazza »

dyw rhagolygon y tywydd ddim yn rhy dda
Wel, doedd rhagolygon y tywydd ddim yn hollol gywir, Seisyll – tywydd bendigedig, golygfeydd godidog…canlyniad siomedig. Aethoch chi, bois? Unrhyw sylwadau?

Dw i’n siwr byddai chwaraewyr Glynebwy wedi teimlo’n rhwystredig iawn wrth adael y cae brynhawn ddoe. Doedd hi ddim yn gêm o safon o safbwynt y naill dîm na’r llall, ond ni oedd y gwaethaf ym mhob agwedd heb os nac onibai.

Roedd y Porthmyn yn haeddu’r fuddugoliaeth. Roedd eu ‘pac’ yn dda a chafodd y rheng-ôl (6, 7, 8 ) a’r canolwyr (12 a 13) gêm wych.

Roedden ni gyda hyfforddwyr y Porthmyn trwy gydol y gêm yn yr eisteddle. Roedd angerdd y pedwar ohonyn nhw (gan gynnwys y meddyg a’r rheolwr) yn amlwg iawn, ac fe gawson ni groeso neis iawn ganddyn nhw, chwarae teg. Roedd eu hangerdd nhw wedi trosglwyddo i’r chwaraewyr ar y cae.

Roedd y gêm ei hun yn debyg iawn i honno ar Gae’r Bragdy, Pen-y-bont yn ôl ym mis Ionawr – lot o déjà vu a dweud y gwir- llawer o’n ‘prif’ chwaraewyr ddim ar gael, llawer o gam-drafod, llawer o benderfyniadau ‘od’, dim cyd-dynnu a dim siâp nifer o weithiau trwy gydol y gêm.

Yn sicr, mae’r olwynion wedi dod yn rhydd mor gyflym. O edrych ar y tabl, rydyn ni’n 4ydd, ac mae hynny’n fregus o ystyried bod 2 gêm ychwanegol gydag Aberafon.

Dw i ddim yn siwr sut aiff hi yn y ddwy gêm nesaf, yn erbyn Casnewydd nos Fawrth, a Chaerdydd. Mae’n dibynnu pwy sydd ar gael i chwarae siwr o fod. O safbwynt y clwb nawr, y gêm yn erbyn Aberafon yn y cwpan yw’r un bwysicaf. Ydych chi’n cytuno?
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Gazza wrote:Roedd y Porthmyn yn haeddu’r fuddugoliaeth. Roedd eu ‘pac’ yn dda a chafodd y rheng-ôl (6, 7, 8 ) a’r canolwyr (12 a 13) gêm wych ... Yn sicr, mae’r olwynion wedi dod yn rhydd mor gyflym. O edrych ar y tabl, rydyn ni’n 4ydd, ac mae hynny’n fregus o ystyried bod 2 gêm ychwanegol gydag Aberafon.
Er i'r Porthmyn haeddu eu buddugoliaeth, yn fy marn i, fe allai Glynebwy fod wedi ennill y gêm. Er ei bod hi'n braf, roedd awel gref yn chwythu i lawr y cwm a thu ôl i'r tîm cartref yn ystod yr hanner cyntaf. Roedd yn rhaid i Lynebwy gadw'r sgôr i lawr, a defnyddio'r gwynt yn yr ail hanner. Yn anffodus, oherwydd cyfuniad o daclo bregus a chamdrafod, ni lwyddwyd i wneud hyn. Erbyn yr ail hanner, roedd y gwynt wedi gostegu rywfaint, ond doedd penderfyniad y tîm cartref wedi pylu dim, a chafodd hyn ei gadarnhau wrth iddyn nhw sgorio cais o ganlyniad i sgarmes symudol. O hynny ymlaen, roedd hi'n mynd i fod yn anodd iawn i Lynebwy ddod yn ôl.

Yr hyn sy'n achosi pryder yw'r diffyg cysondeb ar ôl y Nadolig am yr ail flwyddyn yn olynol. Does dim gobaith inni ennill y gynghrair nawr, ond rwy'n mawr obeithio y bydd modd inni ymestyn ein rhediad yn y cwpan eleni. Cawn weld.
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Post by ebbwboy »

Fydd Simon Hunt, Rob a James Lewis, Rhys Williams, Will Thomas ddim ar gael yn erbyn Casnewydd a Chaerdydd. Wn i ddim am Neil Edwards neu Will Jones. Hefyd, fydd Dai Langdon ddim yn chwarae tan y tymor nesaf (Rhys Williams hefyd, mae'n debyg).

Yn fy marn i, dylen ni chwarae gyda Bryan Shelbourne yn faswr, a'r crwt o Gastell Nedd, a oedd tn eilydd yn erbyn Llanymddyfri, yn fewnwr.

Hefyd, gobeithio bydd rhai chwaraewyr ein midffild wedi cael sesiwn neu dau are a bagiau taclo ddoe a heddiw!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Gazza
Posts: 18
Joined: 08 Dec 2007 11:55
Location: Glynebwy/Ebbw - mun!

Post by Gazza »

roedd awel gref yn chwythu i lawr y cwm a thu ôl i'r tîm cartref yn ystod yr hanner cyntaf. Roedd yn rhaid i Lynebwy gadw'r sgôr i lawr, a defnyddio'r gwynt yn yr ail hanner. Yn anffodus, oherwydd cyfuniad o daclo bregus a chamdrafod, ni lwyddwyd i wneud hyn
Ie, cytuno'n llwyr, Seisyll. Dyna'r 'penderfyniadau od' soniais amdanyn nhw.
ond doedd penderfyniad y tîm cartref wedi pylu dim
Cytuno eto. Dyna'r fath o gêm oedd hi. Dim llawer o safon, camgymeriadau di-ri o safbwynt Glynebwy, ac oherwydd hynny roedd modd i'r Porthmyn chwarae fel roedden nhw eisiau - mae chwarae 'penderfynol' (dogged fight, fel maen nhw'n ei ddweud!) yn hollbwysig pan fyddwch chi ar waelod unrhyw gynghrair.
Simon Hunt, Rob a James Lewis, Rhys Williams, Will Thomas ddim ar gael yn erbyn Casnewydd a Chaerdydd. Wn i ddim am Neil Edwards neu Will Jones. Hefyd, fydd Dai Langdon ddim yn chwarae tan y tymor nesaf (Rhys Williams hefyd
Diolch am yr wybodaeth. Clywais i na fyddai Dai Langdon yn barod - er gwaethaf pob ymdrech. Wi'n siwr ei fod e'n siomedig ac yn rhwystredig. Beth mae Will Thomas wedi'i wneud, tybed? Mae fe wedi bod yn anlwcus iawn gyda'r anafiadau hefyd. Pwy fyddai eisiau bod yn flaenwr???? Gobeithio bydd Will a Neil yn ôl erbyn gêm y cwpan ( a'n bod ni ddim yn cael rhagor o anafiadau yn y ddwy gêm cyn hynny!!)
dylen ni chwarae gyda Bryan Shelbourne yn faswr, a'r crwt o Gastell Nedd
Ie, syniad da - cyhyd â bod Gareth Williams?? (crwt o Gastell-nedd) ar gael. Fe gafodd Bryan Shelbourne gêm eithaf da yn safle'r maswr yr wythnos ddiwethaf.

Gawson nhw awr neu ddwy o sesiwn ymarfer heddiw rywbryd? Y broblem yw bod dim llawer o amser i ymarfer gyda thair gêm mewn 7 diwrnod.

Pob lwc iddyn nhw nos yfory yn y gêm 'derby'. Wi'n edrych ymlaen at y gêm - yn enwedig ar ôl cipio'r pwyntiau ar ôl y cais cosb i lawr ar Rodney Parade gwpl o fisoedd yn ôl!! :)
dyn y dur
Posts: 47
Joined: 12 Oct 2006 19:13

Post by dyn y dur »

Es i ddim i'r gem yn erbyn y Porthmyn. Roedd y canlyniad yn siomedig ond nid yn hollol annisgwyliadwy i fi.

Wi'n gwybod bod ni'n wedi colli nifer o chwaraewyr yn ddiweddar am resymau amrywiol, ond dyw e ddim yn esbonio'n llwyr difyg hyder, difyg trefn a difyg "chwant", yn enwedig oddi gartref, yn y tim ar hyn o bryd. Beth sy wedi mynd o'i le ?

Yn ni wedi cwympo i chweched safle nawr.
Bydda i yno heno a gobeithio y gwelwn ni i gyd perfformiad lot lot well !

[/url]
Post Reply