Dim ond gair bach i ddymuno pob lwc i'r bois nos Sadwrn. Byddai hi'n braf iawn petaem ni'n gallu mynd yr holl ffordd i Stadiwm i Filflwydd eleni.
De' 'lên, 'Ebw'!
Y gêm yn erbyn Aberafan
Moderator: ebbwboy
-
- Posts: 18
- Joined: 08 Dec 2007 11:55
- Location: Glynebwy/Ebbw - mun!
Ie, pob lwc yn wir. Yn sicr dwi'n edrych ymlaen at y gêm.
Er gwaetha'r canlyniadau 'cymysg' yn ddiweddar, mae teimlad eitha hyderus gyda fi y bydd Glynebwy yn ennill nos yfory.
Mae gyda ni'r math o dîm sy'n gallu gwneud y mwyaf o gêmau ac achlysuron mawr. Dw i'n meddwl am y gêm oddi cartref yn erbyn Castell-nedd - y tîm mae pawb eisiau'i guro - a dyna beth ddigwyddodd, a llawn haeddiannol hefyd!
Mae hyfforddwr Aberafon Simon King wedi bod i ffwrdd gyda thîm Cymru dan 18 oed, felly dyw pethau ddim wedi bod yn ddelfrydol iddyn nhw. Ar ben hynny, fe gollon nhw yr wythnos ddiwethaf mewn gêm roeddwn i'n disgwyl iddyn nhw'i hennill a dweud y gwir.
Byddwn i'n dweud y byddwn ni'n ennill o ryw 5/6 pwynt nos yfory!!!

- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
Gazza, fel Mystic Meg wyt ti? Gobeithio byddwch chi'n gywir ond, a dweud y gwir, dwi ddim yn gallu gweld Glynebwy'n ennill. Do, ennillon ni yn erbyn Castell Nedd, ond roedd hynny'n amser maith yn ol, ac mae Aberafan wedi bod yn chwarae'n eitha dda - er iddyn nhw golli i Abertawe - a wedi bod yn fuddugol yn erbyn Caerdydd a Chastell Nedd.
Ymlaen, lynebwy!
Ymlaen, lynebwy!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
-
- Posts: 18
- Joined: 08 Dec 2007 11:55
- Location: Glynebwy/Ebbw - mun!
Taswn i Mystic Meg, byddwn i'n gwneud y loteri bob wythnos (a chwpl o mercs wedi'u parcio y tu fâs i'm palas posh i!!)Gazza, fel Mystic Meg wyt ti?
Peidiwch â phoeni, ffrindiau - os bydd y tîm yn ennill heno (yn enwedig o 5/6 pwynt) bydda i yn Tesco wrth y peiriant loteri peth cyntaf bore yfory
Sylwadau digon teg, ebbwboy, ond gobeithio bo ti'n anghywir y tro yma!! Wi'n dal yn eithaf hyderus heddi!
-
- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
-
- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
Wrth gwrs! Gwna i brynu ciciwr newydd a phar o sgidiau fel mae Gavin Henson yn eu gwisgo!dyn y dur wrote:taset ti'n ennill ebbwboy elli di brynu ciciwr newydd i'r tim ?Efallai dylwn i brynu tocyn loteri???
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
-
- Posts: 18
- Joined: 08 Dec 2007 11:55
- Location: Glynebwy/Ebbw - mun!
Efallai dylwn i brynu tocyn loteri???
Wel, pryna un i fi hefyd te, ebbwboy - achos does dim gobaith i fi!!! Nawr, pwy awgrymodd y byddai Ebb yn ennill o 5/6 pwynt 'to?!???!
Teimlo fel tipyn bach o dwpsyn, rhaid dweud. Wedi dweud hynny, roeddwn i'n hapus iawn erbyn hanner amser, ond dywedodd rhywun yn y dorf y byddai maswr, rhif 10, Aberafon yn ein cosbi ni yn yr ail hanner - a dyna beth ddigwyddodd. Cafodd eu rhif 10 a'u hasgellwr, 14, gêm wych.
Pob chwarae teg i Nio a sawl un arall hefyd, heb sôn am ein cefnwr gorau ni gyda thri chais.
Roeddwn i'n sylwi bod y sylwebwyr a'r cyflwynwyr wedi cael trafferth gydag enw Nio - roedd hynny'n ddoniol. Yn fwy doniol byth roedd gweld fy wyneb i ar y telebocs...ych â fi!
Dim mwy chwarae Mystic Meg i fi bois, bydda i'n cau fy ngheg y tro nesaf - ac mae'r bunt yn ddiogel yn fy mhoced, nid yn y peiriant loteri!
-
- Posts: 18
- Joined: 08 Dec 2007 11:55
- Location: Glynebwy/Ebbw - mun!