Sillafu GLYNEBWY yn gywir

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Sillafu GLYNEBWY yn gywir

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Oes rhywun arall wedi sylwi bod GLYNEBWY yn cael ei ysgrifennu'n anghywir yn gyson ar raglenni chwaraeon S4C (fel dau air: GLYN EBWY!). Dw i wedi ysgrifennu at y sianel i gwyno, ond ni thyciodd ddim. Tybed, os gellir cael digon o bobl i ysgrifennu atyn nhw yn cwyno, siawn na fyddan nhw'n newid eu meddwl. Beth mae pobol eraill yn feddwl?
RhysJervis
Posts: 171
Joined: 28 Feb 2005 21:17
Location: Ebbw Vale

Post by RhysJervis »

Wyt ti'n siwr? Roedd in meddwl roedd gap rhwng u Glyn ar Ebwy. Fel ti'n gwybod rwyn siwr, mae glyn yn gair yn y Cymraeg.

A hefyd maer iaeth cymraeg fi yn wael, rhoi'rr fau i'r athrawon Gwynllyw.
...GARN RFC...
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Post by ebbwboy »

RhysJervis wrote:Wyt ti'n siwr? Roedd in meddwl roedd gap rhwng u Glyn ar Ebwy. Fel ti'n gwybod rwyn siwr, mae glyn yn gair yn y Cymraeg.

A hefyd maer iaeth cymraeg fi yn wael, rhoi'rr fau i'r athrawon Gwynllyw.
Dwi ddim, byth, yn beio'r athro/athrawes! Gyda'r dysgybl mae'r broblem! :wink:
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
RhysJervis
Posts: 171
Joined: 28 Feb 2005 21:17
Location: Ebbw Vale

Post by RhysJervis »

Gormod o rugby a dim ddigon o amser yw'r problem.

Rwy'n rhy brysur yn chwarae i'r Garn i meddwl am waith!

Waith! tuh
...GARN RFC...
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

RhysJervis wrote:Gormod o rugby a dim ddigon o amser yw'r problem.

Rwy'n rhy brysur yn chwarae i'r Garn i meddwl am waith!

Waith! tuh
S'mae, Rhys. Yn y lle cyntaf, hoffwn i gymryd y cyfle hwn i'th longyfarch ar safon dy Gymraeg, a'th barodrwydd i'w defnyddio'n gyhoeddus. Yn ail, GLYNEBWY sydd i'w gael yn y 'Rhestr o Enwau Lleoedd Cymru' (the 'Gazateer of Welsh Place Names'). sef y beibl o ran sillafu enwau llefydd yng Nghymru (yn Gymraeg a Saesneg!).
Post Reply