Gêm Abertawe

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Gazza
Posts: 18
Joined: 08 Dec 2007 11:55
Location: Glynebwy/Ebbw - mun!

Gêm Abertawe

Post by Gazza »

Ar ôl dechrau mynd i gemau Glynebwy pan oeddwn i tua 7 oed gyda fy nhad, dyma fi – tua 20 mlynedd yn ddiweddarach – yn ymuno â’r sgwrsfan am y tro cyntaf!!

Roeddwn i’n meddwl y dylwn i gyfrannu at y sgwrsfan i ddathlu’r ffaith i gamerâu S4C ddod yn ôl i Barc Eugene Cross yr wythnos ddiwethaf. Dw i ddim yn siwr pa mor werthfawr fydd fy nghyfraniad cofiwch!

Dyna dreuni! Dw i wastad yn edrych ymlaen at y gemau rhwng Abertawe a Glynebwy. Dw i’n hoff iawn o faes San Helen (pan mae’r heulwen yn disgleirio’n braf, yn enwedig yr olygfa odidog tuag at y môr. Ar y llaw arall, dw i’n dweud dim am y tywydd sydd gyda ni ar hyn o bryd!

Gobeithio bydd y gêm yn cael ei chynnal/haildrefnu, pan fydd y tywydd a’r amgylchiadau yn fwy addas ar gyfer rhedeg â’r bêl– dau dîm sy’n hoffi gwneud hynny. Fydden ni ddim wedi gweld ‘rygbi bert’ heddiw yn y tywydd yma - er dwi'n siwr y byddai Glynebwy wedi ennill beth bynnag. Fe joiais i’r gêm lawr ar faes San Helen y tymor diwethaf, llawn cyffro hyd y funud olaf un, a’n gêm gartref ni ar ddechrau’r tymor yma (er gwaetha’r ffaith inni golli o drwch blewyn!)

Fel dywedais i mewn neges arall, fe ddylai swyddogion y clwb gael eu canmol am ryddhau'r wybodaeth am y gêm mor gyflym. Doedd dim byd i'w weld ar wefan cwb Abertawe tan ryw awr wedyn (er dyw hi ddim yn râs wrth gwrs), ond dyna wasanaeth oddi wrth ein clwb ni.
dyn y dur
Posts: 47
Joined: 12 Oct 2006 19:13

Post by dyn y dur »

shwmae Gazza !

Mae'n neis i gael cyfraniad gan rhywun newydd yma.
on i'n arfer mynd i gemau gyda fy nhad hefyd pan on i'n grwt bach ond nol yn y saithdegau oedd hi.

Dwi'n cofio pan oedd yr heulwen yn disgleirio braf yn Sain Helen on ni'n arfer cael ein chwalu yno fel arfer.
Mae pethau wedi newid y dyddiau ma nawr wrth gwrs. (gobeithio).
Post Reply