Dim ond nodyn byr i ddymuno pob hwyl i bawb ar gyfer y flwyddyn newydd - heb anghofio'r tîm wrth gwrs!! Gobeithio i chi i gyd gael Nadolig neis.
Roeddwn i'n meddwl yn y gêm yn erbyn Llanymddyfri ddydd Mercher ei bod hi'n wych bod y timau (yn enwedig y rhai o'r gorllewin gwyllt) a'u cefnogwyr yn cael croeso dwyieithog dros y system P.A. Chwarae teg i'r clwb.
Tybed faint o glybiau sy'n gwneud hynny. Dw i wedi bod i bob gêm oddi cartref hyd yn hyn y tymor, ond dw i ddim wedi cymryd sylw (fel typical dyn!!)
Bydda i'n gwrando'n astud ddydd sadwrn i lawr ar Barc Pandy (os cofia i)!!
Dymuniadau Gorau
Moderator: ebbwboy
-
- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
Re: Dymuniadau Gorau
AFAIK, heblaw ni, dim ond Llanelli a Llanymddyfri sy'n ddwyieithog yn eu cyhoeddiadau. Ni'n ffodus iawn bod Alan Evans ar y PA yn Gymro Cymraeg, wrth gwrs!Gazza wrote:Dim ond nodyn byr i ddymuno pob hwyl i bawb ar gyfer y flwyddyn newydd - heb anghofio'r tîm wrth gwrs!! Gobeithio i chi i gyd gael Nadolig neis.
Roeddwn i'n meddwl yn y gêm yn erbyn Llanymddyfri ddydd Mercher ei bod hi'n wych bod y timau (yn enwedig y rhai o'r gorllewin gwyllt) a'u cefnogwyr yn cael croeso dwyieithog dros y system P.A. Chwarae teg i'r clwb.
Tybed faint o glybiau sy'n gwneud hynny. Dw i wedi bod i bob gêm oddi cartref hyd yn hyn y tymor, ond dw i ddim wedi cymryd sylw (fel typical dyn!!)
Bydda i'n gwrando'n astud ddydd sadwrn i lawr ar Barc Pandy (os cofia i)!!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
-
- Posts: 18
- Joined: 08 Dec 2007 11:55
- Location: Glynebwy/Ebbw - mun!
Diolch yn fawr, bois. Sylwadau diddorol iawn. Dw i'n gwybod nad yw hi'n rhesymol i wneud pob cyhoeddiad yn ddwyieithog, ond mae'n neis clywed gair o groeso yn Gymraeg.
O ddarllen rhai o'r negeseuon, efallai mai un gêm yn ormod oedd hi (2 gêm mewn 3 diwrnod) a'r meysydd chwarae yn ddigon trwm i flino'r coesau, ac ambell i anaf (Simon yn gynnar iawn?).
Pwy oedd wedi'i anafu gyda llaw? Oedd y dyfarnwr mor wael â hynny??
Oedd, siom i'r chwaraewyr, dwi'n siwr. Yn anffodus, aethon ni ddim i'r gêm - tro cyntaf y tymor yma i golli gêm (am fod salwch difrifol yn y teulu y noson gynt).Siom fawr am y canlyniad Dydd Sadwrn diwethaf. Mae'r gem yn erbyn Castell Nedd sy'n nesau yn edrych yn enfawr nawr.