Gwasanaeth newydd ar S4C

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
RS
Posts: 328
Joined: 01 Mar 2005 18:16
Location: By one of the ponds Corus wanted to drain.
Contact:

Gwasanaeth newydd ar S4C

Post by RS »

Ces i e-bost oddi wrth S4C y bore ma, yn cyhoeddi gwasanaeth newydd i'u gwelwyr di-Gymraeg...

"Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw (15 Gorffennaf) y bydd y sianel yn darparu sylwebaeth yn yr iaith Saesneg yn ychwanegol at y darllediadau Cymraeg ar ddetholiad o’i harlwy chwaraeon pan fo hawliau’n caniatáu.

Bydd y gwasanaeth newydd ar gael drwy’r botwm coch ar S4C Digidol ar Sky, Freeview, Freesat a Virgin TV yng Nghymru, a thu allan i Gymru ar Sky a Freesat. Bydd y prif drac sain teledu yn parhau yn y Gymraeg.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei ariannu gan gyllid masnachol S4C ac nid y cyllid cyhoeddus sy’n ariannu’r cynnwys Cymraeg ei iaith.

Bydd holl ddarllediadau rygbi a phêl-droed domestig y sianel yn darparu sylwebaeth Saesneg trwy’r botwm coch rhyngweithiol.

• Pêl-droed - gemau byw ac uchafbwyntiau o Uwch Gynghrair Cymru y Principality a Chwpan Cymru yn ogystal ag uchafbwyntiau gemau cartref rhyngwladol Cymru.
• Rygbi’r Undeb - gemau byw o’r Cynghrair Magners, Cwpan Swalec a Chynghrair y Principality.
• Rygbi’r Cynghrair – gemau’r Celtic Crusaders.

Pan fo hawliau’n caniatáu, bydd y gwasanaeth newydd ar gael ar ddarllediadau chwaraeon ar-lein y sianel, ar s4c.co.uk.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C: “Mae S4C yn ddarlledwr Cymraeg sydd wedi’i ymrwymo i ddarparu rhaglenni o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg. Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth newydd yn atgyfnerthu apêl ac argaeledd S4C ymhlith y nifer fawr o wylwyr di-Gymraeg sy’n gwylio’n rhaglenni, yn enwedig ein harlwy chwaraeon sylweddol.”

Cyhoeddir tendr i ddarparu’r gwasanaeth newydd ar wefan S4C, s4c.co.uk.

Mae gwasanaeth is-deitlau Saesneg eisoes yn cael ei ddarparu gan S4C."
Don't forget, you read it here first. (Unless it's rubbish, then please assume you read it elsewhere.)
Post Reply