Glynebwy v Abertawe

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Gazza
Posts: 18
Joined: 08 Dec 2007 11:55
Location: Glynebwy/Ebbw - mun!

Glynebwy v Abertawe

Post by Gazza »

Aeth rhywun i lawr?

Joiais i'r gêm, ond siomedig am y canlyniad. Wedi dweud hynny, dw i'n credu bod y canlyniad yn deg.

Roeddwn i'n meddwl y dylen ni fod wedi ennill a chael y pedwar pwynt, ond roedd Abertawe yn benderfynol hyd at y funud olaf, ac yn haeddu cael rhywbeth mâs o'r gêm.

Roedd hi'n debyg iawn i'r gêm ym mis Mai pan oedd Glynebwy ymhell ar y blaen yn yr hanner cyntaf, cyn i Abertawe ddod yn ôl i roi crasfa i ni.
Post Reply