Llongyfarchion!
Moderator: ebbwboy
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Llongyfarchion!
Llongyfarchion i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y clwb eleni. Doeddwn i ddim yn gallu bod yng Nghaerdydd i weld y gêm yn erbyn y Crwydriaid neithiwr, ond roedd hi'n braf clywed Huw Llewellyn Davies yn canmol Cymreictod gwefan y clwb ar y teledu - yn enwedig cywirdeb y Gymraeg sydd ar y wefan. Trueni nad yw'r BBC (sy'n gyfrifol am ddarlledu rygbi ar S4C) ddim yn gallu sillafu GLYNEBWY yn gywir!
-
- Posts: 328
- Joined: 01 Mar 2005 18:16
- Location: By one of the ponds Corus wanted to drain.
- Contact:
Re: Llongyfarchion!
Seisyll, yr hen goes, braf clywedd oddi wrthyt ti! Sut mae pethau yn y Gorllewin?Seisyll ap Dyfnwal wrote:Llongyfarchion i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y clwb eleni. Doeddwn i ddim yn gallu bod yng Nghaerdydd i weld y gêm yn erbyn y Crwydriaid neithiwr, ond roedd hi'n braf clywed Huw Llewellyn Davies yn canmol Cymreictod gwefan y clwb ar y teledu - yn enwedig cywirdeb y Gymraeg sydd ar y wefan. Trueni nad yw'r BBC (sy'n gyfrifol am ddarlledu rygbi ar S4C) ddim yn gallu sillafu GLYNEBWY yn gywir!
Dwi ddim wedi gwrando ar y sylwebaeth - allwn i ddim ymdopi â gweld y gêm eto - ond dwi'n falch iawn bod Huw Llanelli-Cardiff wedi sylwi ar faint, a safon, y Gymraeg ar ein gwefan ni (a diolch i ti am hynny!) O ddiddordeb, wyt ti'n gwybod pryd(ar gloc y gêm) oedd e'n canmol y wefan? Hoffwn i ddefnyddio ei eiriau fe ar y wefan.
Mae'n braf gweld y clwb yn cynrychioli ac adlewyrchu Cymreictod yr ardal - Llŷr ac Alan yn gwneud cyfweliadau â S4C yn ystod y gêm, ac Alan a fi'n recordio sylwadau cyn y gêm ar gyfer rhaglen arall.
Roedd y canlyniad yn siomedig, wrth gwrs, ond mae wedi bod yn dymor gwych.
Don't forget, you read it here first. (Unless it's rubbish, then please assume you read it elsewhere.)
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Re: Llongyfarchion!
Yn anffodus, anghofies i recordio'r gêm. Roeddwn i'n sicr ein bod ni'n mynd i ennill, ac yn edrych ymlaen at y gêm nesaf yn erbyn Pen-y-bont ar Ogwr! A dweud y gwir, ces i f'atgoffa i o rownd derfynol Cwpan Cymru yn ôl yn '98 yn erbyn Llanelli lle na chwaraeodd y tîm i'w lawn botensial (yn fy marn i), a thipyn o lwc aeth â hi ar y diwedd! Ar ôl dweud hynny, rwy'n credu fod y bois wedi gwneud yn wych i hawlio lle yn y gêmau dros ben.Dwi ddim wedi gwrando ar y sylwebaeth - allwn i ddim ymdopi â gweld y gêm eto - ond dwi'n falch iawn bod Huw Llanelli-Cardiff wedi sylwi ar faint, a safon, y Gymraeg ar ein gwefan ni (a diolch i ti am hynny!) O ddiddordeb, wyt ti'n gwybod pryd(ar gloc y gêm) oedd e'n canmol y wefan?
Rwy'n cael yr argraff nad yw Huw Eic yn rhy hoff o glybiau rygbi i'r gogledd o'r M4. Ond dim ond unwaith dw i wedi cwrdd ag e; roeddwn i'n nabod ei dad (Eic Davies - sy'n enwog am fod y person cyntaf i gyfieithu termau rygbi i'r Gymraeg) yn well. Roedd Eic yn benderfynol fod chwaraewr o glwb rygbi Glynebwy (nad ydw i'n mynd i'w enwi) wedi rhoi diwedd ar yrfa rygbi addawol Huw. Efallai bod hynny wedi lliwio ei farn e!