Cefnogi Rygbi Proffesiynol yng Nghymru

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Cefnogi Rygbi Proffesiynol yng Nghymru

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Yn sgil y timau o Gymru'n cael eu taflu ma's o'r Gynghrair Geltaidd, efallai nid nawr yw'r amser gorau i ofyn y cwestiwn yma, ond hoffwn i gael gwybod faint ohonon ni fyddai'n cefnogi'r Dreigiau petai 'Casnewydd' a/neu 'Gwent' yn cael eu hepgor o'r teitl. Mae'r Gweilch yn mynd i gael gwared ag 'Abertawe' a 'Castell-nedd' o'u teitl nhw, felly, pam na all yr un peth ddigwydd yn achos y timau proffesiynol eraill?
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Post by ebbwboy »

Heb 'Casnewydd' yn y teitl? Ni fyddai'n ddigon imi; byddai'n raid iddynt chwarae rhai gemau ym Mhontypwl, Glynebwy etc a ddangos agwedd mwy 'rhanbarthol'. Pe buasai'r pethau hyn yn digwydd, wel, efallai, efallai.
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

ebbwboy wrote:Heb 'Casnewydd' yn y teitl? Ni fyddai'n ddigon imi; byddai'n raid iddynt chwarae rhai gemau ym Mhontypwl, Glynebwy etc a ddangos agwedd mwy 'rhanbarthol'. Pe buasai'r pethau hyn yn digwydd, wel, efallai, efallai.
Es i i weld Stadiwm y Morfa (a gwneud tipyn bach o siopa'r un pryd!). Mae'n wych. Os na cheir newidiadau sylweddol yng Ngwent yn fuan, fe fydda i'n mynd i Abertawe i weld rygbi rhanbarthol yn y dyfodol. :)
Audi Diesel
Posts: 183
Joined: 05 Mar 2005 22:10

Heb 'Casnewydd' yn y teitl?

Post by Audi Diesel »

Dim gobaith goo boy, ond yn y diwedd fe fyn y gwir ei le.
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Heb 'Casnewydd' yn y teitl?

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Audi Diesel wrote:Dim gobaith goo boy, ond yn y diwedd fe fyn y gwir ei le.
Elli di ailadrodd, plis. Dw i 'bach yn drwm fy nghlyw!
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Re: Heb 'Casnewydd' yn y teitl?

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Audi Diesel wrote:Dim gobaith goo boy, ond yn y diwedd fe fyn y gwir ei le.
Mae hyn yn awgrymu dy fod yn credu/teimlo fod 'rhanbarth' arall yn mynd i fynd cyn bo hir. Os felly, p'un 'ti'n meddwl?
RhysJervis
Posts: 171
Joined: 28 Feb 2005 21:17
Location: Ebbw Vale

Post by RhysJervis »

Es i i weld y gem rhwng y Dreigiau ar Gweilch a mae rhaid ddweud or tu-fas maer stadiwm yn arbennig. Fel Stadiwm y Millenium fach. Maer tu-fewn hefyd yn edrych yn dda, ond oherwydd maen mor fawr does dim atmosffer o gwbl. Mae pawb mor bell i fwrdd o'i gilydd does dim llawer o swn. Cymra'i Rodney Parade dros Stadiwm Newydd unrhyw diwrnod.
...GARN RFC...
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

RhysJervis wrote:Cymra'i Rodney Parade dros Stadiwm Newydd unrhyw diwrnod.
Os wyt ti eisiau awyrgylch, aros tan Cwpan Heineken, Rhys, pryd y bydd y 'Morfa' dan ei sang. 'Gei di weld. 8)
RhysJervis
Posts: 171
Joined: 28 Feb 2005 21:17
Location: Ebbw Vale

Post by RhysJervis »

Dwi'n gweld beth rydych chi'n trio dweud, ond maer Stadiwm mor fawr rydw i'n credu galla fe ddim dod unrhywle yn agos i'r awyrgylch agos yn Rodney Parade. Maer pobl more agos a maer aqyrgylch mor **intense a **hostile. Efallai y rheswm mae Rodney Parade fel mae o' ddim dim byd i wneud gyda'r **ground, ond yn lle y rheswm yw maer cefnogwyr mor ffyrnig.

Ymddiheuriad fawr am fy Cymraeg anfoddhaol.
...GARN RFC...
Post Reply