Sillafiad Glynebwy
Moderator: ebbwboy
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Sillafiad Glynebwy
Rhaid imi gyfaddef fy mod i'n hoff iawn o fformat 'syml' newydd gwefan y clwb. A hefyd da gweld fod enw Glynebwy wedi cael ei sillafu'n gywir yno. Mae'r BBC yn mynnu sillafu'r enw fel dau air o hyd, a dw i wedi gweld yr un peth ar arwyddion ffordd yn yr ardal. Er gwybodaeth, enw'r dre yw Glynebwy ac enwau'r nodweddion daearyddol yw Glyn Ebwy Fawr a Glyn Ebwy Fach.
-
- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
Re: Sillafiad Glynebwy
A dweud y gwir, Seisyll, enw go iawn y dre, yn y Wenhwyseg, oedd "Bencae" (dwi'n sicr dy fod ti'n gwybod hyn!)
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Re: Sillafiad Glynebwy
Da iawn, ebbwboy. Ond cyn, ac ar ddechrau, y Chwyldro Diwydiannol, doedd dim shwd le â thre Glynebwy - dim ond casgliad o bentrefi bach fel Pont-y-gof a Phen-cae. Os am ddarllen am hanes yr ardal yn Gymraeg, rwy'n cymeradwyo 'Llên Gwerin Blaenau Gwent' gan Frank Olding.
-
- Posts: 219
- Joined: 28 Feb 2005 21:03
- Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
- Contact:
Re: Sillafiad Glynebwy
Dwi'n gwybod! Ond enw gwreiddiol "y dre" oedd Pen-y-cae, neu "Bencae" yn nhafodiaith yr ardal.Seisyll ap Dyfnwal wrote:Da iawn, ebbwboy. Ond cyn, ac ar ddechrau, y Chwyldro Diwydiannol, doedd dim shwd le â thre Glynebwy - dim ond casgliad o bentrefi bach fel Pont-y-gof a Phen-cae.
Ydych chi'n cofio Mrs Roberts, oedd yn athrawes Saesneg yn yr hen Ysgol Ramadeg Glynebwy? Dywedodd hi wrtho i, blynyddoedd yn ol, taw enw gafodd ei ddyfeisio ar gyfer Eisteddfod 1958 oedd 'Glynebwy'!
"We may be in the tropics but today Queensland has been as cold as Ebbw Vale" - Stuart Barnes, Lions' Tour 2001.
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
Re: Sillafiad Glynebwy
Rwy'n cofio Mrs Roberts, ond ches i erioed fy nysgu ganddi hi. Mae'n bosib iawn ei bod hi'n trïo bod yn ddrygionus wrth ddweud hynny. O'r gogledd roedd hi'n dod os cofia i'n iawn.
Does dim amheuaeth da fi taw cyfieithiad o 'Ebbw Vale' yw Glynebwy, ond mae'r silliafiad yn ufuddhau i reolau sillafu enwau lleoedd Cymraeg, cf. Glyndyfrdwy, Glyncorrwg, Glynegwystl, ac yn bwysicach fyth, Glynebwy yw'r ffurf a geir yn yr enwog Y Rhestr o Enwau Lleoedd (A Gazatteer of Welsh Place-Names).