S Tuipulotu
Moderator: ebbwboy
-
- Posts: 104
- Joined: 01 Mar 2005 16:54
S Tuipulotu
Ar hafan y clwb, sylwais fod enw S Tuipulotu ymhlith eilyddion Glynebwy ar gyfer y gêm yn erbyn Crwydriaid Morgannwg ddydd Sadwrn. Rwy'n cymryd taw'r aelod o garfan y Dreigiau yw e. Os felly, ai dyma'r tro cyntaf i aelod o garfan y Dreigiau droi ma's i Lynebwy? A pham taw ar y fainc mae e? Holl bwynt rhoi benthyg chwaraewyr "rhanbarthol" i glybiau'r Uwch-adran yw fel y gallan nhw gael ymarfer, on'd ife? Wrth gwrs, falle taw cambrint yw e. All rhywun roi eglurhad imi?