Adran Gymraeg

Chat about Ebbw - in Welsh of course!

Moderator: ebbwboy

Post Reply
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Adran Gymraeg

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

Diolch o galon am yr adran yma, Tony. Nawr beth dyn ni'n mynd i'w drafod ..? :lol:
(A very big thanks, Tony.)
ebbwboy
Posts: 219
Joined: 28 Feb 2005 21:03
Location: Beaufort (capital of the Universe, mun!)
Contact:

Post by ebbwboy »

Helo Seisyll! Beth am bostio tipyn bach am sut ddaethon ni i ddysgu (os dysgwyr ydyn ni, wrth grws!) yr heniaith.
Am fi, es i Ysgol Gramadeg Glynebwy yn y saithdegau a roeddwn i'n gallu astudio'r pwnc hyd at Safon Uwch. Ail iaith imi ydy Cymraeg on dwi'n falch mod i'n gallu siarad tipyn bach, beth bynnag.
Beth am bawb arall? Iaith cyntaf neu ail iaith?
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

ebbwboy wrote:Helo Seisyll! Beth am bostio tipyn bach am sut ddaethon ni i ddysgu (os dysgwyr ydyn ni, wrth grws!) yr heniaith?
Syniad da iawn.

Roedd fy mam-gu yn gallu siarad Cymraeg, ond buodd hi farw pan o'n i'n fach. Felly, dechreues ddysgu Cymraeg o ddifrif, pan es i i'r hen Ysgol Ramadeg yng nghanol y chwedegau! Do'n i byth yn dda gyda chwaraeon, ond oherwydd fy maint (ar y pryd), ces i fy nhynnu i mewn i'r tim rygbi, a tra o'n i yn y chweched dosbarth es i yn dipyn o 'fitness freak', a chwaraewn i'r ysgol ar fore dydd Sadwrn a thim ieuenctid Glynebwy yn y prynhawn. Es i i'r coleg yng ngorllewin Cymru, ac yno rwy'n byw ac yn gweithio ar hyn o bryd, sy'n golygu nad nad oes cymaint o amser gen i i ddod i wylio Glynebwy'n chwarae gartre ag yr hoffwn.

Yn olaf, fel mae pawb yn ei wybod, rwy'n siwr, rwy'n gryf iawn o blaid rygbi rhanbarthol, ond nid beth sydd gyda ni nawr - yn enwedig yng Ngwent.
RS
Posts: 328
Joined: 01 Mar 2005 18:16
Location: By one of the ponds Corus wanted to drain.
Contact:

Post by RS »

Wel, mae gennym adran Cymraeg on does neb yn dweud dim! Dewch ymlaen bechgyn a merched!

Beth ydych chi'n meddwl am y perfformiad yn erbyn Cross Keys? Beth am dim (ble mae'r to bach??) Cymru? Beth am ddyfodol rygbi ranbarthol?

Postiwch eich syniadau, os gwelwch yn dda!
:P
Don't forget, you read it here first. (Unless it's rubbish, then please assume you read it elsewhere.)
Seisyll ap Dyfnwal
Posts: 104
Joined: 01 Mar 2005 16:54

Post by Seisyll ap Dyfnwal »

RS wrote:Beth ydych chi'n meddwl am y perfformiad yn erbyn Cross Keys? Beth am dim (ble mae'r to bach??) Cymru? Beth am ddyfodol rygbi ranbarthol?P
Yn anffodus, yn enwedig o ystyried lle dw i'n byw, dw i ddim wedi cael cyfle i ddod i weld Glynebwy yn chwarae gartre eleni eto, felly, dw i ddim yn teimlo'n gymwys i drafod chwaraewyr unigol.

O ran rygbi rhanbarthol, rwy'n credu bod pawb yn gwybod lle dw i'n sefyll. Os na fydd pethau'n newid yn syfrdanol yng Ngwent yn y dyfodol agos, rwy'n bwriadu cefnogi'r Gweilch. :cry:

O.N. byddwn i wedi postio hyn ymhell cyn nawr, ond do'n i ddim yn cael gwneud am ryw reswm neu'i gilydd.
Post Reply